Skip navigation

Smokefree

NHS

Oedran gwerthu yng Nghymru

O 1af Hydref 2007 bydd y gyfraith o ran gwerthu tybaco yn newid. Mae'n anghyfreithlon bellach i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un o dan 18 oed (o gymharu ag 16 oed yn flaenorol) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ymhlith y cynhyrchion yr effeithir arnynt mae sigaréts, sigarau, tybaco rhydd a phibau ynghyd a phapurau rholio a werthir dros y cownter a thrwy beiriannau gwerthu.

Canllawiau

Datblygwyd adnoddau i sicrhau bod busnesau sy'n gwerthu tybaco yn ymwybodol o'r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r newid yn y gyfraith.

Ddechrau mis Medi, anfonwyd pecyn canllaw llawn drwy'r post i fusnesau sy'n gwerthu tybaco. Roedd y pecyn hwn yn cynnwys llyfryn a oedd yn egluro beth roedd angen i fusnesau ei wneud, hysbysiad statudol i'w arddangos a chanllaw ymarferol i fanwerthwyr a chyflogeion.

Gellir llwytho'r llyfryn i lawr yma:
Llyfryn (PDF, 289kb) (n grain ffenest)

Gellir llwytho'r canllaw ymarferol i lawr yma hefyd:
Canllaw Ymarferol (PDF, 253kb) (n grain ffenest)

Arwyddion

Fel ag o'r blaen, bydd angen i chi arddangos arwydd yn nodi'n glir y cyfyngiad oedran ar werthu cynhyrchion tybaco.

Arwyddion ar gyfer gwerthu dros y cownter

Gellir llwytho arwydd i lawr a'i argraffu yma:

Arwyddion couwnter (PDF, 69kb) (n grain ffenest)

DS: Rhaid argraffu'r arwydd fel ei fod o leiaf maint A3 (420mm x 297mm). Mae'n bosibl y bydd eich argraffydd yn addasu maint y delweddau yn awtomatig. Sicrhewch fod y fformat argraffedig yn bodloni'r meini prawf isod.

Os byddwch yn dewis cynhyrchu eich arwydd eich hun neu ddefnyddio arwydd arall, er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith:

  • Mae'n rhaid iddo nodi 'Mae'n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un o dan 18 oed’.
  • Mae'n rhaid iddo fod o leiaf maint A3 (420mm x 297mm) â llythrennau sydd o leiaf 36mm o uchder.

Arwyddion ar gyfer gwerthu o beiriannau gwerthu

Mae'n rhaid i bob peiriant gwerthu tybaco ddangos arwydd hefyd. Caiff yr arwyddion hyn ar gyfer peiriannau gwerthu eu cynhyrchu gan berchenogion peiriannau gwerthu:

Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, rhaid i arwydd peiriant gwerthu:

  • Mae'n rhaid iddo nodi, 'Dim ond pobl sy'n 18 oed neu'n hŷn a gaiff ddefnyddio'r peiriant hwn’.
  • Bod o leiaf 60mm x 100mm, gyda llythrennau sydd o leiaf 6mm o uchder.
  • Bod yn gwbl weledol i unrhyw un sy'n defnyddio'r peiriant.

Dylai eich cyfanwerthwr tybaco neu ddarparwr peiriant gwerthu allu rhoi arwydd i chi os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.

Gallai gwerthu cynhyrchion tybaco i rywun o dan yr oedran cyfreithiol (18 mlwydd oed) arwain at ddirwy o hyd at £2,500. Gall methu ag arddangos yr hysbysiad statudol arwain at ddirwy o hyd at £1,000. Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion a gaiff eu gwerthu dros y cownter ac mewn peiriannau gwerthu.

Posteri

Cynlluniwyd posteri i godi ymwybyddiaeth o'r newid yn y gyfraith a'r dyddiad y daeth i rym. Maent ar gael i'w llwytho i lawr isod.

Taflenni ffeithiau

A hoffech ragor o wybodaeth am y newid yn y gyfraith? Cewch daflenni ffeithiau defnyddiol isod ar gyfer masnachwyr, pobl ifanc yn eu harddegau ac am yr ymgyrch ei hun.